Croeso
Mae D J Evans - Cyfarwyddwyr Angladdau yn fusnes teuluol a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl. Mae gennym swyddfeydd ym Mhenrhyncoch, Aberystwyth a Machynlleth. Rydym yn gwmni sydd wedi'i hen sefydlu yn yr ardal, sy'n cynnig gwasanaeth parchus, ymroddedig a phroffesiynol i'n cwsmeriaid.
Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â chleientiaid mewn modd llawn cydymdeimlad a charedig ar adeg pan fyddant mewn galar mawr. Gallwch sicrhau y byddwn yn ymdrin â phob sefyllfa unigol â thosturi ac urddas.
Trefniadau a Brynwyd o Flaen Llaw
Mae trefniadau a brynwyd o flaen llaw yn lleihau'r baich o wneud penderfyniadau a thalu adeg tristwch, sioc a thrallod i'ch teulu.
Gyda chynllun wedi'i drefnu o flaen llaw ar gyfer eich angladd, bydd gennych gyfle i roi cyfarwyddiadau clir i'ch teulu, yn dweud sut drefniadau y byddech yn dymuno eu cael ar gyfer eich angladd. Gallwn gynnig cynlluniau angladd wedi'u trefnu o flaen llaw trwy'r 'Golden Charter'. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
-