'Llun o fflag y Deyrnas Unedig' Saesneg | 'llun portreadu Nod-Llyfr' Nod-Llyfr

Manylion Angladdau

Gallwn ddarparu dyfynbris yn cynnwys y manylion llawn ar gyfer costau'r angladd, o'r trefniadau mwyaf helaeth i'r rhai symlaf. Mae angladd yn fater personol, a gallwch ddod atom i drafod yn gyfrinachol, heb ymrwymo i brynu dim, i ni gael gweld pa fath o angladd y byddech yn dymuno'i gael, a gweld beth fyddai'r gost. Gallwn eich cynghori hefyd ar y cymorth sydd ar gael, pe byddech angen help gyda chost yr angladd.


Llun dangos cyfrifiannell

Wedi'u cynnwys yn y costau:

Ffioedd proffesiynol sy'n cynnwys gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol, paratoi'r holl ddogfennau, a chysylltu â'r awdurdodau perthnasol. Cysylltu â gweinidogion, organyddion, eglwysi, neu'r amlosgfa, a threfnu man claddu os bydd angen. Yr holl lythyron, galwadau ffôn ac ati.



Llun dangos lili Llun dangos amdorch-mum

Trefnu'r blodau:

Os bydd angen, neu gallwn dderbyn blodau ar eich rhan. Os gofynnir am roddion ariannol yn hytrach na blodau, gallwn eu casglu, a threfnu iddynt gael eu hanfon ymlaen at yr elusen o'ch dewis.

Yn ôl i'r brig ↑



Llun dangos cysgogi-llaw

Presenoldeb y cyfarwyddwr angladdau a'i staff yn yr angladd:

(ac ar y noson cyn yr angladd os bydd angen):

Bydd y cyfarwyddwr angladdau ar gael 24 awr y dydd hyd at yr angladd, ac i gynorthwyo â chynghori adeg galar ar ôl yr angladd.



Llun dangos papur newydd Llun dangos cerdyn-gwasanaeth

Cyhoeddiadau mewn Papur Newydd ac Argraffu Taflenni Gwasanaeth:

Byddwn yn trefnu i roi cyhoeddiadau mewn papur newydd o'ch dewis chi, yn dilyn trafodaeth â'r teulu ynghylch y cynnwys. Byddwn hefyd yn trefnu i argraffu taflenni gwasanaeth, gydag emynau o'ch dewis chi. Bydd yr eitemau hyn ar yr anfoneb derfynol.

Yn ôl i'r brig ↑



Llun dangos bwffe

Arlwyo:

Os bydd arnoch angen gwneud trefniadau arlwyo yn dilyn yr angladd, byddwn yn gallu trefnu hynny ar eich rhan. Gallwn wneud hyn mewn lleoliad o'ch dewis chi, neu gallwn awgrymu lleoliad addas yn lleol. Gallech fod yn dymuno cael bwffe ysgafn neu de, yn dibynnu ar amser yr angladd. Bydd y gost hefyd yn cael ei hychwanegu at yr anfoneb derfynol.



Llun dangos arch pren Llun dangos arch naturiol

Cost Arch a Chasged:

Byddwn yn trefnu hyn yn ôl eich cyfarwyddiadau a'ch dewis chi, a byddwn yn nodi cost eich dewis yn y dyfynbris. Gallwn hefyd ddarparu eirch eco-gyfeillgar ar gyfer yr angladd mwy naturiol. Bydd yr eirch hyn wedi'u gwneud â llaw o goed bambw neu helyg.

Yn ôl i'r brig ↑



Llun dangos mynwent

Ffioedd Mynwent ac Amlosgi:

Mae gan bob awdurdod lleol ei gostau ei hun; byddwn yn gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol a thalu'r ffioedd a'r treuliau i gyd ar eich rhan. Bydd y treuliau hyn yn cael eu nodi'n llawn ar eich anfoneb derfynol.



Llun dangos car a cheffyl Llun dangos elorgerbyd

Cerbydau:

Ar eich cais, byddwn yn nodi cost darparu'r cerbydau y byddwch eu hangen yn y dyfynbris. Gallwn hefyd drefnu car a cheffyl ar gyfer yr angladd.

Yn ôl i'r brig ↑